Mae cannoedd o gartrefi ym Mlaenau Gwent yn parhau heb gyflenwad nwy, yn dilyn byrst mewn pibell ddwr yn gynharach yr wythnos hon.
Mae cwmni Wales and West Utilities yn dweud eu bod yn dal i weithio’n galed er mwyn adfer cyflenwad tua 775 o gartrefi yn Nantyglo.
Maen nhw hefyd yn pwmpio dros 100,000 litr o ddwr allan o’r bibell dan sylw.
“Mae’n job gymhleth,” meddai llefarydd ar ran Wales and West Utilities mewn datganiad, “ac fe allai gymryd rai dyddiau eto cyn y gallwn ni adfer y cyflenwad.
“Fydd cyflenwad nwy pawb ddim yn cael ei adfer ar yr un pryd, ond fe fyddwn ni’n cadw mewn cysylltiad gyda’r bobol sydd wedi’u heffeithio.
“Os oes angen help ar unrhywun, neu os ydyn nhw’n gwybod am gymydog sydd angen help, mae’n bosib iddyn nhw ein ffonio ar y rhif 0800 912 2999.”
Mae’r cwmni hefyd wedi rhannu 100 o wresogyddion ffan i’w cwsmeriaid mwya’ bregus, ac maen nhw’n diolch i’r gymuned am ei hamynedd yn y mater hwn.