Yr 'ymosodwr' mewn llun CCTV (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae heddlu yn Abertawe wedi galw eto am help y cyhoedd er mwyn ceisio dod o hyd i ddyn sy’n cael ei amau o ymosod ar dri o bobol yng nghanol y ddinas.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau yn ystod oriau man y bore, Ionawr 1, yn ystod dathliadau’r Flwyddyn Newydd.

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio sawl gwaith trwy’r wasg leol, gwefannau cymdeithadol a thrwy raglen Crimewatch y BBC, ac maen nhw’n dal i ofyn i’r cyhoedd ddod ymlaen gydag unrhyw wybodaeth allai fod o help.

“Fe gerddodd y dyn yma o gwmpas ardal y Stryd Fawr ger yr orsaf drenau, gan ymosod ar bobol yn ddirybudd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.

“Ym mhob achos, roedd wedi gofyn i’w ddioddefwyr os y cai fenthyg eu ffonau symudol er mwyn gwneud galwad.

“Roedd yn gwisgo crys-T lliw gorau gyda logo amlwg iawn ar y tu blaen. Mae hwn yn achos anghyffredin o ymosod, gan fod y dyn dan sylw yn ymosod ar bobol nad oedd yn eu nabod.”

Gall unrhyw un ffonio’r Heddlu ar y rhif 101, neu gysylltu gyda Taclor’ Tacle ar 0800 555 111.