Mae Apêl DEC Cymru i Argyfwng Gaza wedi codi dros £236,000 mewn pythefnos.
Bu’r pwyllgor yn derbyn cyfraniadau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli, yng Ngŵyl Pride Cymru a thrwy eu gwefan a’r llinell gymorth 24 awr.
Fe fydd yr arian yn cael ei ychwanegu at yr £11 miliwn sydd wedi ei gasglu ledled Prydain i helpu trigolion Gaza sy’n dioddef oherwydd ymosodiadau lluoedd Israel ar y wlad.
Cafodd dau Balestiniaid eu lladd gan filwyr o Israel yn ystod cyrch awyr y bore yma. Ac yn ystod y chwe wythnos diwethaf, mae mwy na 2,000 o drigolion Gaza wedi cael eu lladd, tra bod 100,000 yn ddigartref.
Cronfa
Fe fydd arian Apêl DEC Cymru yn mynd at gynyddu gwaith dyngarol asiantaethau sy’n rhoi cymorth i drigolion Gaza ac yn darparu gofal meddygol brys, dŵr glân a lloches brys.
Meddai Kirsty Davies, Cadeirydd DEC Cymru i Apêl Argyfwng Gaza: “Hoffem estyn ein diolch i bobol Cymru sydd wedi cyfrannu mor hael er mwyn inni fedru darparu’r cymorth brys i Gaza.
“Mae’r Cymry wedi dangos nad ydyn nhw’n barod i anwybyddu pobol Gaza yn eu hawr angen.”
“Cynyddodd y swm gyda chymorth trefnyddion yr Eisteddfod Genedlaethol a Pride Cymru, a oedd wedi caniatáu inni godi arian yn eu digwyddiadau. Felly hoffwn ddiolch iddyn nhwythau hefyd am eu cefnogaeth.”
“Mae DEC Cymru dal yn croesawu cyfraniadau, fydd o gymorth mawr yn Gaza. Mae’r sefyllfa dal yn ddwys iawn, a dim ond trwy gymorth rhyngwladol sylweddol y gallwn ateb y gofynion dyngarol.”