Fe ddylai’r Eisteddfod Genedlaethol barhau i fod yn ŵyl sydd yn teithio o gwmpas Cymru – dyna farn bron i 80% o’r bobl a bleidleisiodd yn arolwg golwg360.
Dywedodd y mwyafrif helaeth o’r cannoedd a bleidleisiodd eu bod nhw am weld lleoliad y brifwyl yn parhau i symud yn flynyddol, yn hytrach na chanfod safle parhaol yng Nghymru.
Fe bleidleisiodd 18% o blaid ceisio canfod safle parhaol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, sydd yn teithio rhwng gogledd a de Cymru bob yn ail flwyddyn ar hyn o bryd.
Dim ond 3% oedd ddim yn siŵr beth oedd eu safbwynt pan ofynnwyd a oedd hi’n bryd dod a’r traddodiad symudol i ben.
Fe gododd y cwestiwn unwaith yn rhagor ar ôl Eisteddfod Sir Gâr eleni ar ôl i rai Eisteddfodwyr gwyno nad oedd pwrpas cael gŵyl oedd yn symud gan fod y rhan helaeth o’i gweithgaredd yn digwydd ar y maes.
Yn ei cholofn yn Yr Herald Gymraeg yr wythnos hon roedd Angharad Tomos yn dweud: ‘O ddarparu cwrw ac adloniant ar y maes wedi chwech o’r gloch, does dim pwynt i’r Steddfod deithio. Pwy yn ei iawn bwyll sydd am adael y maes i deithio i dafarn i dalu am adloniant?’
‘Claddu’r gneuen’
Wrth ymateb i ganlyniad pôl piniwn golwg360 fe ddywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod ei fod yn gobeithio fod y mater nawr wedi’i setlo.
“Mae yna waith ymchwil eithaf sylweddol wedi’i wneud llynedd gan y Gweithgor, ac fe ddaeth y gweithgor allan yn gryf o blaid [parhau i] symud,” meddai Elfed Roberts.
“Dw i’n croesawu’r canlyniad, ond tydi o ddim yn fy synnu. Rydan ni wedi datgan ers sawl blwyddyn … fod yr Eisteddfod yn eiddo i bobl Cymru, ac ar gael i unrhyw ran o Gymru.
“Mae’r Eisteddfod yn ŵyl symudol … a fyswn i’n licio petai’r gneuen yma’n cael ei chladdu am ychydig rŵan, gan mai dyna ydi barn y mwyafrif yn amlwg.”
Ateb y galw
Fe fynnodd y Prif Weithredwr mai ateb gofynion yr Eisteddfodwyr oedden nhw wrth gynnal mwy o ddigwyddiadau ar y maes, yn enwedig yn ystod y nos, gan mai dyna oedd y mwyafrif eisiau.
“Mae gweithgareddau’n cael eu cynnal ar y maes oherwydd bod Eisteddfodwyr wedi gofyn i ni sawl gwaith ‘pam na wnewch chi wneud hyn ar y maes’,” meddai Elfed Roberts.
“Ymateb ydan ni i ofynion y bobl. Beth rydan ni’n ei wneud rŵan ydi sicrhau fod pwy bynnag sy’n talu i ddod i’r maes … yn cael gwerth am arian, a rŵan dwi’n eithaf ffyddiog eu bod nhw.
“Does neb yn gorfodi’r bobl yma i aros ar y maes. Mater o ddewis ydi o, ac mae’n amlwg fod yna rai miloedd yn dewis aros ar y maes am fod yr adloniant sydd i’w gael yn apelio a’u bod nhw hefyd yn mwynhau’r awyrgylch.
“Eleni yn Sir Gâr roedd yna fwy o weithgareddau y tu allan i faes yr Eisteddfod nag ers blynyddoedd lawer – dw i methu deall pam bod pobl yn gofyn y cwestiwn yma dro ar ôl tro gan mai mater o ddewis ydi o.”
Cyhuddiad economaidd yn ‘nonsens’
Fe ddywedodd hefyd mai “nonsens” oedd y cyhuddiad nad oedd yr Eisteddfod bellach yn cyfrannu digon tuag at economi leol yr ardal oedd yn ei chynnal.
“Mae sôn fod yr Eisteddfod ddim yn cyfrannu yn economaidd i fusnesau’r ardal hefyd yn nonsens.
“Doedd yna ddim modd cael gwesty yn agos i Lanelli am fisoedd cyn yr Eisteddfod, ac roedd rhai yn dweud y gallen nhw fod wedi llenwi tair gwaith a throsodd.”
Fe gyfeiriodd at bobl oedd yn aros yn y maes carafanau oedd yn prynu pethau megis bwyd a thanwydd yn lleol fel esiampl bellach o hyn.
“Yn y bôn ein gwaith ni ydi trefnu Eisteddfod, trefnu gweithgareddau ac ymateb i beth mae’r mwyafrif yn ei ddweud wrthon ni,” meddai Elfed Roberts.
Canlyniad
A ddylai’r Eisteddfod barhau i deithio?
Dylai – 78.99%
Na ddylai – 17.75%
Ddim yn siŵr – 3.26%
Nifer bleidleisiodd: 276