Mae Kizzy Crawford, y gantores 18 oed o Ferthyr sydd wedi swyno’r sîn roc Gymraeg yn ddiweddar, yn mynd ar daith i America a Chanada.

Bydd yn hedfan allan ar 23 Medi ac fe fydd hi’n cefnogi’r artist Tim Chaisson mewn gigs yn Prince Edward Island, Nova Scotia a New Brunswick yn ogystal â chwarae yng Ngŵyl Showcase Prince Edward Island. Yna mae’n gobeithio teithio i Efrog Newydd a Boston i ganolbwyntio ar ysgrifennu deunydd newydd a gwneud gigs meic agored.

Ar ôl iddi orfod canslo sawl gig dros yr haf er mwyn gorffwyso ei llais yn dilyn haint drwg ar ei gwddf, mae Kizzy Crawford yn gwella erbyn hyn ac yn edrych ymlaen at gyflwyno cynulleidfa newydd sbon yng Nghanada ac America i’r iaith Gymraeg:

“Dw i’n teimlo’n gyffrous iawn am ganu’n Gymraeg ar y daith, ac am ganu caneuon dwyieithog hefyd – dw i’n caru gwneud hynny. Mae gen i gymaint o ryddid i lifo mewn i un iaith ac wedyn y llall. Mae’n teimlo’n braf oherwydd dw i wedi tyfu fyny yn siarad y ddwy iaith a ma’ fe’n symio lan fy mywyd i rili.

“Dw i wedi gweld, pan dw i’n canu mewn llefydd gwahanol fel Ffrainc, Iwerddon a Lloegr, mae gan bobol ddiddordeb mewn clywed iaith nad ydyn nhw wedi ei chlywed o’r blaen. Ac maen nhw wastad yn dweud fod y Gymraeg yn swnio fel iaith mor brydferth.”

Bydd Kizzy Crawford  yn chwarae ei gig olaf cyn mynd dros y dŵr am dair wythnos yn Stiwdio Acapela, Caerdydd  ar 13 Medi am wyth o’r gloch yr hwyr.

Mwy am y stori yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.