Golwg360 sydd yn dod a’r diweddaraf o Bencampwriaeth yr IPC yn Abertawe, gan gynnwys hynt a helynt y Cymry.

*Para-athletwyr o bob cwr o Ewrop yn cystadlu

*Pedair medal i’r Cymry ddoe, gan gynnwys aur i Aled Sion Davies

*Josie Pearson yn cipio arian taflu pastwn mewn 1-2-3 i Brydain

*Laura Sugar yn bedwerydd yn y naid hir

17.15: Diwedd ar ddiwrnod arall o gystadlu yn Abertawe i’r Cymry felly, a Josie Pearson yw’r unig un o’r ddwy a gystadlodd sydd wedi ennill medal heddiw.

Rwsia sydd yn parhau ar frig y tabl medalau gyda 71 yn gyfan gwbl, gan gynnwys 33 aur, ond mae Prydain yn ôl yn ail gyda 46 (15 aur), o flaen yr Almaen ar 40 (12 aur) a’r Wcrain ar 36 (12 aur).

16.53: Dim medal i Laura Sugar y prynhawn yma yn anffodus wrth iddi hi lithro i bumed yn ffeinal y naid hir T44 i ferched.

Mae’n gorffen yn bedwerydd ar ôl neidio pellter o 4.27m yn ei naid olaf, ei chanlyniad gorau o’r diwrnod.

Dyw hynny’n anffodus ddim yn ddigon i fygwth safleoedd y medalau, fodd bynnag, gydag Iris Pruysen sy’n drydydd yn neidio 4.88m.

Stef Reid o Brydain sy’n ennill aur, gyda Marie-Amelie Le Sur o Ffrainc yn ail.

16.35: Ar ôl dwy ymgais i bawb, mae Laura Sugar yn bedwerydd yn ei ffeinal naid hir T44 hi gyda phellter o 4.13m.

Y Brydeinwraig Stef Reid sydd ar y blaen ar 5.32m, gyda’r Ffrances Marie-Amelie Le Sur yn ail ar 5.05m ac Iris Pryusen o’r Iseldiroedd yn drydydd ar 4.59m.

15.58: Mae’r cystadlu wedi ailddechrau nawr ar ôl y saib ginio hir, gyda chystadlaethau taflu siot F57 a thaflu gwayffon F54 y merched.

Fe ddaw’r ddiddordeb Cymreig nesaf mewn ychydig dros chwarter awr, pan fydd Laura Sugar yn mynd amdani yn ffeinal y naid hir T44 i ferched.

Mae’r Gymraes eisoes wedi blasu llwyddiant drwy ennill medalau efydd yn y 100m T44 a 200m T44 yr wythnos hon.

Yn gynharach fe ddywedodd wrth ohebydd golwg360 Alun Chivers cymaint y mae’n edrych ymlaen at y gystadleuaeth y prynhawn yma.

14.28: Rhagor o ymateb i chi nawr gan Josie Pearson, a enillodd fedal arian y bore yma yn y gystadleuaeth taflu pastwn – ond fe roedd hi ychydig yn rhwystredig â swyddogion y gystadleuaeth, fel mae Alun Chivers yn adrodd.

13.35: Gan fod yna saib arall yn y cystadlu dros amser cinio eto heddiw, dyma gyfle i chi wrando eto ar gyfweliad Alun Chivers gydag Aled Sion Davies ddoe, ar ôl i’r Cymro gipio medal aur yn taflu siot:

12.50: Nid Joanna Butterfield yw’r unig ferch sydd wedi torri record ym mhencampwriaeth Ewrop yr IPC y bore yma – mae un Ffrances wedi torri record byd.

Llwyddodd Marie-Amelie Le Fur i dorri’r record yn ffeinal y ras 400m T44 i ferched, gan orffen mewn 1:01.41, ychydig dros funud.

Doedd y ferch a ddaeth yn ail, Irmgard Bensusan o’r Almaen, ddim yn bell y tu ôl iddi chwaith gan orffen mewn 1:01.85, record bersonol iddi hi.

Os yw enw Bensusan yn canu cloch, mae hynny oherwydd ei bod hi hefyd wedi gorffen yn ail yn y 100m T44, a’r 200m T44 – gyda’r Gymraes Laura Sugar yn drydydd yn y ddwy ras honno.

Enillydd y ddwy ras honno oedd Marlou van Rhijn o’r Iseldiroedd, ond mae’n amlwg fod Bensusan yn fwy cyfforddus dros bellter uwch gan mai trydydd ddaeth van Rhijn yn y 400m.

Peidiwch a dweud nad ydach chi’n dysgu pethau newydd o’r blog byw yma!

12.27: Abi Hunnisett, y Brydeinwraig arall a gystadlodd yn y ffeinal taflu pastwn yna, orffennodd yn bedwerydd – felly llongyfarchiadau i holl ferched Prydain yn y gystadleuaeth honno!

12.21: MEDAL ARIAN I BRYDAIN!

Cadarnhad felly o’r fedal arian i Josie Pearson – mae’r pennawd uchod ychydig yn gamarweiniol, wrth gwrs, gan fod Prydeinwyr wedi dod yn gyntaf a thrydydd hefyd!

Joanna Butterfield sydd yn ennill gyda 1110 o bwyntiau, ar ôl taflu pellter o 17.68m, gyda Josie Pearson ar 941 (14.02m) a Gemma Prescott ar 905 (20.39m).

Cofiwch mai pwyntiau, nid pellter, oedd yn cyfrif yn y gystadleuaeth hon gan fod para-athletwyr o ddau gategori gwahanol yn cystadlu.

Roedd Butterfield a Pearson yng nghategori F51, tra bod Prescott yng nghategori F32, felly roedd y pwyntiau oedd yn cael eu rhoi am eu pellter ychydig yn wahanol.

12.15: Rydan ni’n aros i Joanna Butterfield orffen nawr, ond hi sydd yn mynd i gipio’r fedal aur i Brydain gyda’r Gymraes Josie Pearson yn ail a’r Brydeinwraig arall Gemma Prescott yn drydydd.

12.13: Ac mae’n ganlyniad 1-2-3 i Brydain, wrth i Butterfield daflu pellter o 17.69m, sef 1110 o bwyntiau, i symud i safle’r fedal aur!

Tafliad anferth ganddi hi i ennill y gystadleuaeth, mae’n ymddangos – ac mae hi wedi torri record Ewropeaidd wrth wneud.

11.59: Catherine O’Neill, yr ail athletwr F51 y fynd, wedi gorffen â sgôr o 732 ar ôl taflu pellter o 11.76m.

Mae’n golygu fod Josie Pearson yn safle’r fedal aur, a’r Brydeinwraig arall Gemma Prescott yn ail – gydag un Prydeinwraig F51, Joanna Butterfield, i ddod.

11.57: Josie ddim yn llwyddo i wella ar y tafliad cyntaf yna, felly’n aros ar 941 o bwyntiau.

Mae’n edrych fel ei bod hi’n saff o fedal felly, ond pa liw?

Yn ôl gohebydd golwg360, Alun Chivers, mae rhywfaint o drafod wedi bod rhwng Josie Pearson, ei hyfforddwr a’r swyddogion ynglŷn ag un o’i thafliadau – fe ddown ni a’r diweddaraf i chi am hynny pan glywn ni ragor.

11.37: Maria Stamatoula yw’r olaf o’r athletwyr F32 i gystadlu, ac mae hi’n gorffen â sgôr o 393 ar ôl taflu 13.78m.

Josie Pearson yw’r cyntaf o dair athletwraig F51 i gystadlu nawr, ac mae ei thafliad cyntaf o 14.02m yn rhoi sgôr o 941 iddi – mae’n hi’n mynd yn syth i’r brig felly!

11.15: Dwy arall wedi bod bellach yn y ffeinal taflu pastwn, Krisztina Kalman o Hwngari ac Abbi Hunnisett o Brydain, y ddwy hefyd yn athletwyr F32.

Kalman yn taflu pellter o 18.47m sydd yn sgôr o 789, a Hunnisett yn taflu 18.58m sydd yn 796 pwynt – y Brydeinwraig aeth gyntaf, Gemma Prescott, sydd dal ar y blaen felly.

10.54: Mae ffeinal taflu pastwn Josie Pearson yn dilyn ffurf debyg i gystadleuaeth taflu gwaywffon Nathan Stephens, ble mae pob athletwr yn taflu’u holl gynigion ar unwaith cyn symud ymlaen at y person nesaf.

Mae athletwyr o ddwy gategori yn y ffeinal hon, F51 ac F32, felly er mwyn gwneud pethau’n deg mae pellterau taflu’r athletwyr yn cael eu newid i ‘bwyntiau’ – dyma fydd yn penderfynu’r enillydd terfynol.

Mae tair Prydeinwraig arall yn ogystal â Josie yn y ffeinal hon gan gynnwys Gemma Prescott (F32) a aeth gyntaf, gan daflu pellter o 20.39m a sgorio 905 pwynt.

10.32: Y cyntaf o’r Cymry i gystadlu heddiw yw Josie Pearson, sydd yn ffeinal y gystadleuaeth taflu pastwn F51 y bore yma.

Mae’r ffeinal honno wedi cael ei symud o 10.55yb i 10.30yb sef, wel, tua nawr.

Pob lwc i Josie felly, wrth i ni ddilyn y gystadleuaeth hon y bore yma.

10.30: Bore da, a chroeso unwaith eto i flog byw golwg360 o Bencampwriaeth para-athletau Ewropeaidd yr IPC yn Abertawe.

Heddiw yw’r pedwerydd diwrnod o gystadlu allan o bump, gyda dwy Gymraes yn cystadlu i dîm Prydain yn ystod y dydd.

Ddoe fe fu’r Cymry’n llwyddiannus tu hwnt, gydag Aled Sion Davies yn cipio medal aur am daflu siot, a Bradley Wigley, Laura Sugar a Jordan Howe yn ennill efydd yn eu rasys 200m.