Y diweddar James Foley
Mewn datganiad ar wefan gymdeithasol Facebook, mae mam y newyddiadurwr Americanaidd a gafodd ei ddienyddio gan eithafwyr ISIS yng ngogledd Irac, wedi talu teyrnged i’w mab.

Meddai Diane Foley: “Roedd James yn berson hynod oedd yn barod i amlygu dioddefaint pobl gyffredin.

“Nid ydym erioed wedi bod mor falch ohono ag yr ydym nawr. Rhoddodd ei fywyd i amlygu dioddefaint pobol Syria.”

Yn y fideo a ryddhawyd gan ISIS yn dangos y dienyddiad, bygythiodd y terfysgwyr ddienyddio’r Americanwr arall sydd yn eu meddiant os nad yw Barack Obama yn newid trywydd drwy beidio bomio ISIS yn Irac.

“Rhyddhewch y gweddill”

Mae Diane Foley wedi galw ar i’r terfysgwyr ryddhau’r gweddill yn eu meddiant. Yn eu plith y mae’r newyddiadurwr, Steven Sotloff, sy’n oherwydd i gylchgrawn Time.

“Rydym yn gofyn i’r herwgipwyr arbed bywyd y wystlon sydd yn weddill,” meddai. “Fel Jim, maen nhwthau’n ddieuog. Nid oes ganddyn nhw reolaeth dros bolisi llywodraeth America yn Irac, Syria nag unrhyw fan arall yn y byd.”

Ac wrth gloi, erfyniodd ar y cyfryngau i barchu preifatrwydd y teulu tra’u bod nhw’n galaru.

“Rydym yn diolchgar i Jim am y gorfoledd a roddodd inni. Roedd yn fab, brawd, newyddiadurwr a pherson hynod. A wnewch chi barchu ein preifatrwydd yn y dyddiau yr ydym yn galaru am Jim.”

Roedd James Foley wedi gohebu mewn sawl ardal ansefydlog led-led y byd yn cynnwys Afghanistan, Libya a Syria.