Mae’n gwestiwn sydd wedi codi’i ben unwaith eto ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni, ond yn un sydd i’w weld yn cael ei ofyn gan nifer o ymwelwyr â’r ŵyl – a ddylai’r Eisteddfod barhau i deithio?

Teithio o un lle i’r llall yw un o’r pethau sydd yn cael ei ystyried yn un o hanfodion yr Eisteddfod, ochr yn ochr â’r Orsedd a seremonïau’r cadeirio a’r coroni.

Mae’n draddodiad iddi ymweld â gogledd a de Cymru bob yn ail flwyddyn, a dyw’r teithio hwnnw ddim wedi cael ei gyfyngu i Gymru chwaith gyda’r Brifwyl yn ymweld â Lloegr naw gwaith ers iddi gychwyn yn 1861.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r Eisteddfod hefyd wedi ymweld yn amlach ag ardaloedd mwy dwyreiniol o Gymru, yn y gobaith y bydd hyn yn hybu’r iaith Gymraeg mewn llefydd ble nad yw mor gryf.

Ond, gyda chymaint o ddigwyddiadau bellach ar faes yr Eisteddfod ei hun yn hytrach na’r ardal leol, mae rhai nawr wedi cwestiynu beth yw pwrpas cael gŵyl sydd yn symud o gwmpas bob blwyddyn.

Bellach mae digwyddiadau ac adloniant yn cael ei ddarparu am ddim ar y maes hyd yn oed gyda’r nos, gan olygu bod llai o Eisteddfodwyr yn gwario’u harian yn y tafarndai a bwytai ac ar bethau fel gwasanaethau tacsis lleol.

Un o’r rhain yw’r awdures Angharad Tomos, a ofynnodd yn yr Herald Cymraeg heddiw: “O ddarparu cwrw ac adloniant ar y maes wedi chwech o’r gloch, does dim pwynt i’r Steddfod deithio. Pwy yn ei iawn bwyll sydd am adael y maes i deithio i dafarn i dalu am adloniant?”

O blaid neu yn erbyn?

Felly beth yw’ch barn chi? A yw’n bryd, o ystyried natur maes yr Eisteddfod heddiw, iddi ollwng ei phac ac aros mewn un lle, neu lond llaw o safleoedd o bosib?

A fyddai’n well cynnal yr ŵyl ar faes pwrpasol yn y canolbarth, rhywle fel Llanelwedd neu yng nghyffiniau Aberystwyth, a chanoli holl weithgaredd yr Eisteddfod yno?

Fyddai hynny’n hwyluso pethau o ran trefniadau llety, parcio, stondinau ac adloniant cyson i ymwelwyr bob blwyddyn?

Neu a fyddai stopio teithio’n torri un o draddodiadau pennaf yr Eisteddfod, ac amddifadu cymunedau ledled Cymru o’r cyfle i gynnal yr ŵyl yn eu hardaloedd nhw?

Pleidleisiwch, a chroeso i chi adael sylwadau hefyd – ble byddai’r safle delfrydol ar gyfer Eisteddfod statig? Neu beth all yr Eisteddfod ei wneud i gynyddu’r bwrlwm oddi ar y maes?