Fore heddiw, fe gafodd y fideo sy’n dangos y newyddiadurwr Americanaidd James Foley ar fin cael ei ddienyddio, wedi’i rhannu ar y we gan ISIS.

Mae’r dienyddiad, meddai’r grwp o wrthryfelwyr, yn talu’r pwyth yn ôl am gyrchoedd awyr yr Unol Daleithau yn erbyn eu milwyr yng Ngogledd Irac.

Mae’r fideo yn dangos dyn mewn dillad du, gyda’i wyneb wedi’i guddio, yn siarad gydag acen Brydeinig, yn galw ar Barack Obama i atal y gefnogaeth filwrol yng ngogledd Irac.

Yn y ffilm, mae Foley, sydd ar ei liniau, yn siarad dan orfodaeth y terfysgwyr.

Cafodd ei gipio ym 2012 yng Ngogledd Syria, pan oedd y gwrthryfel ar ei anterth yn erbyn yr Arlywydd Assad.

Mae James Foley yn newyddiadurwr blaenllaw, fu’n teithio i fannau ansefydlog y byd i newyddiadura. Bu’n gohebu yn y rhyfel cartref yn Libya pan ddisodlwyd Gaddafi fel arlywydd.

Ymatebodd y Prif Weinidog David Cameron fod y datblygiad os yn wir yn “arswydus” a “llygredig”.