Nawaz Sharif - dan bwysau cynyddol
Mae protestwyr sydd am weld Prif Weinidog Pacistan yn ymddiswyddo, yn hawlio buddugoliaeth ar ôl dymchwel ffensys oedd wedi’u codi o flaen y senedd yn Islamabad.

Mae’r protestwyr yn mynnu fod Nawaz Sharif yn camu o’r neilltu wedi iddo, yn honedig, gipio grym yn anghyfreithlon yn etholiad y llynedd.

Ond er y pwysau cynyddol, mae Mr Sharif a’i blaid yn gwrthod ildio. Yn y cyfamser, mae byddin gref y wlad wedi galw am drafodaethau ac am setliad ffurfiol.