Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth er mwyn dod o hyd i Nathan Jenkins, 32, o Bont-y-pwl, sydd wedi torri amodau ei ryddhau ar ôl cael ei ryddhau o garchar.
Fe gafodd Nathan Jenkins ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar am ladrata ym mis Ionawr 2010. Fe gafodd ei ryddhau ar drwydded yn Hydref 2013.
Ond mae nawr yn cael ei alw’n ôl am iddo dorri rheolau ei ryddhau.
Mae wedi’i ddisgrifio fel dyn gwyn, 6 throedfedd o daldra, ac o gorffolaeth canolig/trwm.