Mae Seland Newydd yn y broses o wahardd yr arfer o dorri esgyll siarcod.
Mae gweinidog cadwraeth y wlad, Nick Smith, wedi dweud y bydd y symudiad hwn yn tanlinellu enw da Seland Newydd am warchod yr amgylchedd.
Fe fydd y rheolau newydd yn dod i rym fis Hydref, gan ei gwneud hi’n anghyfreithlon i dynnu asgell oddi ar siarcod marw cyn taflu’r carcas i’r mor. Mae hi eisoes yn anghyfreithlon yno i dynnu esgyll oddi ar siarcod byw.
Mae rhai pobol yn China yn ystyried cawl asgell siarc i fod yn fwyd arbennig, ond mae’r arfer o dynnu esgyll oddi ar siarcod wedi’i gondemnio gan nifer o amgylcheddwyr.
Mae beth bynnag 100 miliwn o siarcod yn cael eu dal yn fashnachol bob blwyddyn.