Mae’r trafodaethau i geisio atal y brwydro yn Gaza yn parhau am 24 awr arall, ac mae’r cadoediad hefyd wedi’i ymestyn tra bod yr Israeliaid a’r Palesteiniad yn trafod yn Cairo.
Mae’r ddwy ochr yn ceisio cytuno ar ffordd ymlaen i Lain Gaza. Mae’r estyniad i gyfnod y trafod yn rhoi ychydig o obaith, er bod y gagendor rhwng y ddwy ochr yn parhau.
Dywedodd un o’r tîm trafod ar ran y Palesteiniad mai’r pynciau sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd yw’r gwarchae ar Gaza, ynghyd â’r galwadau ar Hamas i ddiarfogi, tra bod y Palesteiniaid yn galw am borthladd a maes awyr i’r Gaza.
Nododd Llysgennad Palesteina i Gairo, Jamal Shoback fod yr Israeliaid yn barod i gynnig “hwyluso ar y gwarchae ond nid ei ddileu yn gyfan gwbwl”.