Protestwyr yn Abertawe ddoe
Mae mudiad Reclaim the Power, a drefnodd brotest yn erbyn ffracio yn Abertawe ddoe, yn anfodlon fod arian cyhoeddus yn mynd at adeiladu sefydliad er mwyn ymchwilio i’r broses o ddrilio am nwy siâl.
Cafodd y gwaith adeiladu ar gampws newydd Prifysgol Abertawe yn Ffordd Fabian ei atal ddoe yn dilyn ymyrraeth gan grwp o fyfyrwyr a phobl leol, fel rhan o wersyll gwrth-ffracio Reclaim the Power.
Mae’r tir yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar gyfer adeiladu sefydliad ar gyfer Ymchwil Diogelwch Egni dan adain y brifysgol er ymchwil i fio-beirianneg.
Dywedodd llefarydd ar ran Reclaim the Power fod yna gwestiynau mawr i’w gofyn am ddefnyddioldeb arian cyhoeddus yn yr achos yma;
“Digiwyd y protestwyr gan gymaint o arian cyhoeddus sydd wedi’i fuddsoddi i ymchwilio i ffracio trwy adran Energy Safety Research Institute newydd y brifysgol. Arianwyd y prosiect gan y Cynulliad.”
Ychwanegwyd fod y brotest wedi profi’n effeithiol yn dod a’r pwnc i lygad y cyhoedd.
“Bu’r brotest yn erbyn ffracio ar y campws newydd yn llwyddiannus yn dod a’r pwnc o ffracio i’r amlwg.”
Tir am ddim
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael y tir am ddim gan gwmni olew BP (British Petrolum) sy’n flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu ffracio yng ngwledydd Prydain.
Dywedodd Llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe ” Mae’r Sefydliad ar gyfer Ymchwil Diogelwch Egni ym Mhrifysgol Abertawe yn fuddsoddiad gwerth £38 miliwn a fydd yn canolbwyntio ar elfennau’r Brifysgol ar ymchwil I egni gyda ffocws ar ddiogelwch.
“Mae Prifysgol Abertawe yn arbenigo mewn ymchwil mewn peiriannwaith bio-gemegol. Cafodd y tir sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer y sefydliad newydd”
Rhoddwyd y 65 o erwau o dir gan BP i Brifysgol Abertawe fel rhodd yn 2009.