Mae’r gwrthdaro ffyrnig rhwng yr heddlu a phrotestwyr yn Ferguson yn parhau, ddiwrnod ar ôl i Lywodraethwr talaith Missouri alw’r Gwarchodlu Cenedlaethol i reoli protestiadau yn dilyn marwolaeth y bachgen 18 oed, Michael Brown.
Cafodd protestwyr eu cythruddo hyd yn oed ymhellach neithiwr ar ôl i batholegydd honni fod y bachgen croenddu wedi cael ei saethu yn ei fraich dde – a all olygu fod ei freichiau uwch ei ben neu ei fod wedi troi ei gefn pan gafodd ei saethu.
Mae llygad dystion hefyd yn dweud bod breichiau Michael Brown uwch ei ben pan saethwyd o ar 9 Awst gan blismon croenwyn.
Datgelodd prawf post mortem fod yr hogyn 18 oed wedi’i saethu o leiaf wyth gwaith, ynghyd â dwywaith yn ei ben.
Neithiwr, roedd cannoedd o brotestwyr ar strydoedd Ferguson ar ol iddi noswylio ac fe roedd yn rhaid i swyddogion heddlu seinio cyrn electronig er mwyn eu gwasgaru. Cafodd cerbydau arfog, nwy dagrau a grenadau hefyd eu defnyddio. Ni chafodd neb eu hanafu yn ddifrifol.