Golwg360 sydd yn dod a’r diweddaraf o Bencampwriaeth yr IPC yn Abertawe, gan gynnwys hynt a helynt y Cymry.
*Para-athletwyr o bob cwr o Ewrop yn cystadlu
*Olivia Breen yn bedwerydd yn y naid hir T38
*Efydd i Laura Sugar yn y 100m T44
*Pump o Gymry’n rhedeg y 100m heddiw
18:10: Tair medal efydd i Gymru! Rhys Jones wedi cipio medal efydd yn y 100m T37 i ddynion, a Jordan Howe hefyd yn cipio medal efydd yn y 100m T35, a Bradley Wigley yn drydydd yn y 100m T38.
17:45: Jenny McLoughlin wedi gorffen yn bumed yn ei ffeinal 100m T37 i ferched gydag amser 14.52.
17.02: Yn yr awr nesaf fe fydd pedwar o Gymry eraill yn cystadlu mewn ffeinalau 100m.
Bydd Jordan Howe yn rhedeg ffeinal y 100m T35 i ddynion, Jenny McLoughlin yn ffeinal y 100m T37 i ferched, Rhys Jones yn y 100m T37 i ddynion, a Bradley Wigley yn y ras 100m T38 i ddynion.
Fe ddown ni a chanlyniadau’r pedwar ohonyn nhw i chi nes ymlaen.
16.54: Nid Sugar yw’r unig un i gipio medal i Brydain yn y munudau diwethaf chwaith – mae Jonnie Peacock, un o sêr Gemau Paralympaidd Llundain 2012, wedi ennill aur yn 100m T44 y dynion.
Fe redodd y ras mewn amser o 11.26 eiliad, dros chwarter eiliad yn gynt na Felix Streng o’r Almaen a ddaeth yn ail, a chydwladwr Streng, Markus Rehm, yn drydydd.
Peacock, wrth gwrs, enillodd ras y categori hwn yn Llundain ddwy flynedd yn ôl yn erbyn athletwyr gan gynnwys Oscar Pistorius.
16.47: MEDAL EFYDD I BRYDAIN!
Medal efydd i Brydain, ac yn benodol i’r Gymraes Laura Sugar! Mae hi’n cipio trydydd yn ffeinal y 100m T44 i ferched mewn 13.71 eiliad.
Marlou van Rhijn o’r Iseldiroedd oedd yn fuddugol mewn 13.18 eiliad, gydag Irmgard Bensusan o’r Almaen yn ail mewn 13.39, a’r Prydeinwyr eraill Stef Reid a Sophie Kamlish yn bumed a chweched.
16.34: Mae Alun Chivers hefyd wedi bod yn siarad â Libby Clegg, sydd yn aros i weld a oedd ei hamser hi yn ras gynderfynol y 100m T12 i ferched yn ddigon cyflym i gyrraedd y ffeinal, a Mikail Huggins ei thywysydd.
Mae Clegg wedi bod yn dioddef o salwch yn ddiweddar, ond mae ei thywysydd wedi’i disgrifio fel “pencampwraig go iawn”.
16.30: Fe gewch chi glywed gan y dyn ei hun hefyd – mae Jason Smyth wedi bod yn siarad â golwg360 ar ôl ei fedal aur.
16.22: Buddugoliaeth i’r Gwyddel Jason Smyth yn ffeinal ras y 100m T12 i ddynion – ef sy’n mynd a’r fedal aur ar ôl rhedeg amser o 10.78 eiliad, 0.62 eiliad yn gynt nag y gwnaeth yn y ras gynderfynol.
Fe ddywedodd e y buasai’n mynd yn gynt, ac mi wnaeth. Lot cynt, chwarae teg!
15.39: Jason Smyth o Weriniaeth Iwerddon bellach allan ar y trac ar gyfer ffeinal y 100m T12 i ddynion – fe ddywedodd wrth golwg360 yn gynharach ei fod yn teimlo y gall fynd hyd yn oed yn gynt nag yn ei ras gynderfynol, a enillodd, y bore yma.
14.43: Mae’r cystadlu wedi tawelu dros ginio heddiw yn Abertawe, nid yn unig i’r Cymry ond yn gyffredinol, gyda phethau’n ailddechrau am 15.30yp yn ffeinal taflu disgen F34 y dynion.
Beth am rai o ganlyniadau eraill y diwrnod hyd yn hyn felly?
Mae Oleksandr Doroshenko o’r Wcrain wedi ennill ffeinal y taflu siot F38 i ddynion – fe enillodd y gŵr 32 oed ddwy fedal aur yn y siot a’r ddisgen nôl yng Ngemau Paralympaidd Athens 2004.
Fe dorodd Anna Sorokina ei record bersonol wrth ennill cystadleuaeth y javelin F12 i ferched, i ychwanegu aur at yr arian a enillodd yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012.
Ac yng nghystadleuaeth y naid hir T11 i ddynion roedd enillydd medal aur o Lundain 2012 hefyd yn fuddugol, gyda Ruslan Katyshev yn cipio’r safle cyntaf.
12.58: Er nad oes Cymry’n cystadlu tan nes ymlaen, fe fyddwn ni’n dod a rhagor o Bencampwriaeth Ewrop yr IPC ar ein blog byw y prynhawn yma.
Yn y cyfamser gallwch wrando i gyfweliad Alun Chivers ag Aled Sion Davies, seren Paralympaidd Cymru, wrth iddo edrych ymlaen at y cystadlu.
12.53: Yn ogystal â Laura Sugar, sydd yn rhedeg yn ei ffeinal 100m hi am 16.34yp heddiw, fe fydd pedwar o Gymry eraill hefyd yn cystadlu mewn ffeinalau dros y pellter hwnnw.
Rhwng pump a chwech o’r gloch heno fe fydd Jordan Howe yn rhedeg ffeinal y 100m T35 i ddynion, Jenny McLoughlin nôl ar gyfer y ffeinal 100m T37 i ferched, a Rhys Jones yn rhedeg y 100m T37 i ddynion, cyn i Bradley Wigley orffen yn y ras 100m T38 i ddynion.
12.26: Rhagor o ymateb i’r cystadlu yn Abertawe, ac mae Beverley Jones wedi dweud ei bod hi’n falch ei bod wedi llwyddo i daflu ei thafliad gorau o’r tymor yn ffeinal y siot er gwaethaf gorffen yn chweched.
12.07: Dyw’r Gymraes nesaf ddim yn cystadlu nes hwyrach ymlaen y prynhawn yma, pan fydd Laura Sugar yn rhedeg yn ffeinal 100m T44 y merched.
Yn ogystal â Sugar fe fydd y Brydeinwraig Stefanie Reid hefyd yn rhedeg yn y ffeinal honno, ac yn gynharach fe gyfaddefodd Reid wrth golwg360 ei bod hi’n “nerfus” ynglŷn â’r ras.
11.54: Siom i Beverley Jones wrth iddi fethu â gwella ar ei thrydedd tafliad o 9.01m yn ffeinal y taflu siot F37, ac felly mae hi’n gorffen yn chweched yn y gystadleuaeth.
Eva Berna o Weriniaeth Tsiec sydd yn fuddugol gyda thafliad o 11.01m, tra bod Franziska Liebhardt o’r Almaen yn ail gyda 10.66m, ac Irina Vertinskaya o Rwsia’n drydydd gyda phellter o 10.49m.
11.44: Mae Jason Smyth o Weriniaeth Iwerddon newydd orffen yn gyntaf yn ei ras gynderfynol T12 100m mewn amser o 11.40 eiliad, ac wedi dweud y gall redeg hyd yn oed yn gyflymach yn y ffeinal.
“Nod y rownd gyn-derfynol yw cyrraedd y ffeinal,” meddai’r Gwyddel wrth ohebydd golwg360 Alun Chivers. “Dw i bendant yn meddwl y galla i redeg yn gynt na hynny yn y ffeinal, ond roedd hi’n braf cael rhedeg i weld lle dw i arni a gweld sut gystadleuaeth yw hi.”
11.15: Beverley Jones yn chweched allan o saith ar ôl ei ail thafliad o’r siot yn y ffeinal F37 i ferched.
Yn y cyfamser, dyma ragor am lwyddiant Jenny McLoughlin yn ras gynderfynol y 100m T37 i ferched, gan ohebydd golwg360 Alun Chivers sydd yno yn Abertawe.
11.05: Wrth i ni aros am ffeinal Beverley Jones, fydd yn dechrau unrhyw funud nawr, dyma ychydig o ffeithiau i chi am bencampwriaeth Ewrop yr IPC.
Y gemau eleni yn Abertawe yw dim ond y pedwerydd gwaith iddyn nhw gael eu cynnal. Roedd y cyntaf yn Assen, yr Iseldiroedd yn 2003, cyn iddyn nhw ymweld ag Espoo yn y Ffindir ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac yna ddychwelyd i’r Iseldiroedd yn 2012, y tro hwn i Stadskanaal.
Eleni fe fydd 551 o athletwyr yn cymryd rhan, gan gynnwys 52 o Brydain ac 11 o’r rheiny o Gymru.
10.38: Y gystadleuaeth nesaf i gyda Chymraes yn cystadlu fydd ffeinal taflu siot F37 y merched, ble bydd Beverley Jones yn cystadlu am fedal.
Mae tîm Prydain bellach wedi ennill eu medal aur gyntaf o’r gemau, gyda Samantha Kinghorn yn fuddugol yn y ras 400m T37 i ferched.
10.25: Newyddion gwell, fodd bynnag, i Jenny McLoughlin. Mae hi newydd dorri record bersonol wrth redeg ei ras 100m T37 cynderfynol mewn amser o 14.38 eiliad.
Fe orffennodd hi’n ail i Mandy Francois-Elie o Ffrainc, sef un o’r ffefrynnau, gan olygu ei bod hi drwyddo i’r ffeinal fydd yn cael ei redeg yn nes ymlaen y prynhawn yma.
10.22: Canlyniad cyntaf y dydd i chi, ac mae Olivia Breen wedi gorffen yn bedwerydd yn y gystadleuaeth naid hir T38. Yn anffodus ni lwyddodd i wella ar ei thrydedd naid o 4.20m. Margarita Goncharova o Rwsia sy’n cipio’r fedal aur, a’i naid gyntaf hi o 4.96m oedd un gorau’r dydd.
10.10: Ar ôl tair naid yr un, mae Olivia Breen yn bedwerydd allan o bump yn y ffeinal gyda phellter o 4.20m (fe neidiodd y ferch sy’n drydydd 4.50m).
9.54: Mae’r athletwraig gyntaf o Gymru eisoes wedi dechrau ei chystadleuaeth hi, wrth i Olivia Breen fynd amdani yng nghystadleuaeth y naid hir T38 – mae’r athletwyr o Gymru yn cystadlu o dan Tîm GB yn y gemau hyn, gyda llaw.
9.45: Bore da, a chroeso i flog byw golwg360 o Bencampwriaeth yr IPC sydd yn cael ei chynnal yn Abertawe eleni.
Hon yw’r gystadleuaeth athletau fwyaf yn Ewrop i bara-athletwyr, a dros y pum diwrnod nesaf fe fydd nifer o sêr Cymru a gipiodd fedalau yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012 yn cymryd rhan.
Fe fyddwn ni’n dilyn y Cymry fydd yn cystadlu yn ystod y dydd, yn ogystal â dod a’r diweddaraf ar sut mae rhai o’r sêr mawr eraill yn ei wneud.