Heddiw yw diwrnod cyntaf Pencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC sy’n cael ei gynnal ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Prifysgol Abertawe.

Mae disgwyl i 550 o athletwyr o 37 gwlad gystadlu am fedal dros chwe diwrnod.

Mae 11 athletwr o Gymru yn rhan o dîm Prydain a Gogledd Iwerddon.

Yn yr Iseldiroedd gafodd y Pencampwriaethau blaenorol eu cynnal yn 2012, a Rwsia ddaeth i’r brig yn nhabl y medalau bryd hynny.

‘Pob lwc’

Wrth agor y seremoni yn swyddogol neithiwr, fe wnaeth y Gweinidog Chwaraeon, John Griffiths, ddymuno’n dda i’r holl athletwyr sy’n cystadlu:

“Mae’n bleser mawr cael agor Pencampwriaeth Ewropeaidd yr IPC yn Abertawe ac i roi croeso cynnes i chi gyd. Croeso i Gymru.

“Rydyn ni’n falch iawn mai hwn yw’r digwyddiad chwaraeon anabledd mwyaf i gael ei gynnal yng Nghymru erioed. Rydyn ni wedi creu enw i’n hunain dros y blynyddoedd diwethaf o ddenu digwyddiadau chwaraeon enfawr ac mae hwn yn llwyddiant arall i Gymru.

“Mae Cymru yn wlad sydd yn falch o’i threftadaeth pan mae’n dod i ddatblygu athletwyr chwaraeon anabledd o’r safon uchaf a hefyd ein hymrwymiad i ddatblygu cyfleoedd i bobl mewn chwaraeon anabledd ymhellach.”