Daeth cadarnhad y prynhawn yma na fydd David Weir yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC yn Abertawe’r wythnos hon.
Bu’n rhaid i’r Prydeiniwr dynnu allan oherwydd tendonitis yn ei fraich.
Mae’r newyddion yn ergyd drom i’r trefnwyr oedd yn gobeithio y byddai’r gystadleuaeth rhwng Weir a’i brif wrthwynebydd, Marcel Hug o’r Swistir yn denu’r dorf i Bentref Athletau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe yn ystod yr wythnos.
Roedd disgwyl i’r ddau fynd benben yn rasys T54 dros 400m, 800m, 1500m a 5000m a’r ddau yn geffylau blaen ym mhob ras.
Ond fe allai absenoldeb Weir olygu cyfle euraid i’r Ffrancwr Julien Casoli, sydd wedi dweud fod gan yntau gyfle da i ypsetio’r ffefrynnau yn Abertawe.
Cyn cyhoeddi’r newyddion am Weir heddiw, dywedodd Marcel Hug wrth Golwg360: “Rwy’n teimlo’n dda ond rwy’n gwybod y bydd yn anodd i’w guro fe.
“Fe wnaeth e ’nghuro fi yn y 400m yn Y Swistir felly mae e’n debygol o fod yn hyderus hefyd. Dwi’n credu y bydd e’n agos iawn.
Wrth ymateb i sylwadau Casoli, dywedodd Hug: “Fe wnes i ddarllen ei osodiad e a do’n i ddim wedi fy synnu.
“Roedd e’n trio dweud y dylai fe ganolbwyntio ar ei berfformiad ei hun a pheidio canolbwyntio’n ormodol arna i a David. Does gyda fi ddim problem gyda hynny.
“I fi, mae Julien Casoli yn un o’r ffefrynnau hefyd, ddim cymaint â David falle, ond mae e’n athletwr cryf hefyd.”
Gyda’r sylw felly’n troi at y gystadleuaeth rhwng yr athletwr o’r Swistir a’r Ffrancwr, mae Hug yn edrych ymlaen at y profiad o gystadlu yn Abertawe.
Ychwanegodd: “Dwi’n hoffi’r cyfleusterau yma ac mae’r trac yn eitha cyflym.
“Mae ’na dipyn o wynt, gwynt oer, ac mae’n bosib y bydd peth glaw yn ystod yr wythnos ond yr un yw’r amodau i bawb felly fydd hynny ddim yn broblem.”