Luke Rowe
Mae’r Cymro Luke Rowe wedi’i ddewis fel rhan o dîm Sky fydd yn seiclo Vuelta Sbaen sydd yn dechrau’r penwythnos hwn.

Chris Froome fydd yn arwain y tîm yn y Vuelta a Espana, gyda’r gŵr o Ynys Manaw Peter Kennaugh hefyd yn un o’r naw beiciwr yn y tîm.

Mae rhai o sêr mawr Sky fu’n rhan o’r Tour de France, gan gynnwys Geraint Thomas, wedi cael eu gadael allan er mwyn rhoi hoe iddyn nhw – a Thomas hefyd wedi cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn ddiweddar.

Fe fydd yn gyfle felly i feicwyr eraill fel Rowe greu argraff, gyda’r Cymro 24 oed yn seiclo’r ras hon am yr ail waith yn ei yrfa.

Bydd Froome hefyd yn gobeithio gwneud yn iawn am ei siom ef yn Ffrainc, pan fu’n rhaid iddo dynnu allan o’r Tour ar ôl dim ond pum diwrnod ar ôl anafiadau o ddisgyn oddi ar ei feic.

Gweddill tîm Sky ar gyfer y Vuelta a Espana yw Dario Cataldo, Philip Deignan, Vasil Kiryienka, Christian Knees, Mikel Nieve and Kanstantsin Siutso.