Aled Sion Davies yn siarad â golwg360
Mae llu o bara-athletwyr gorau Ewrop wedi ymgasglu yn Abertawe ar gyfer dechrau Pencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC, sy’n cael eu cynnal eleni am y pedwerydd gwaith.
Cafodd y Pencampwriaethau blaenorol eu cynnal yn yr Iseldiroedd yn 2012, a Rwsia ddaeth i’r brig yn nhabl y medalau bryd hynny.
Bydd y Pencampwriaethau eleni yn cael eu cynnal ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Prifysgol Abertawe o Awst 18 tan Awst 23, ac fe fydd y cyfan yn dechrau gyda seremoni agoriadol heno.
Mae 11 o Gymry yn nhîm Prydain a Gogledd Iwerddon.
Aled Siôn Davies
Mae Aled Siôn Davies ymhlith y rhai sy’n gobeithio cipio medal dros y dyddiau nesaf.
Bydd Davies, sy’n 23 oed ac yn dod o Ben-y-bont ar Ogwr, ymhlith 560 o bara-athletwyr o 37 o wledydd sy’n cystadlu yn y Pencampwriaethau ac mae’n anelu am fedalau aur yn y ddisgen a’r siot yng nghategori F44.
Bydd y Cymro’n cystadlu yn y siot brynhawn Iau a’r ddisgen nos Sadwrn.
Ddiwrnod cyn i’r cystadlu ddechrau, fe fu Davies yn siarad â golwg360 ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Prifysgol Abertawe:
Golwg ar y Cymry eraill
Un o’r Cymry eraill fydd yn anelu am fedal ar y trac yw Jenny McLoughlin, fydd yn cystadlu yn rasys 100m a 200m y categori T37 y menywod.
Yn dilyn ei lwyddiant yn Glasgow, bydd Rhys Jones yn cystadlu yn rasys y 100m a’r 200m yng nghategori T37 y dynion.
Ymhlith y Cymry eraill ar y trac fydd Jordan Howe yn y 100m a’r 200m yng nghategori T35 i ddynion a Bradley Wigley yn y 100m a’r 200m i ddynion yng nghategori T38.
Yn y maes, bydd Josie Pearson yn anelu am fedal i Brydain a Gogledd Iwerddon wrth daflu’r pastwn.
Bydd Kyron Duke yn anelu am fedalau wrth daflu gwaywffon a’r siot yng nghategori F41 i ddynion.
Bydd Beverley Jones hefyd yn anelu am fedalau yn y ddisgen a’r siot yng nghategori F37 i fenywod.
Yn dychwelyd i amlygrwydd yn dilyn ad-drefnu yn ei gategori mae Nathan Stephens, fydd yn taflu gwaywffon a’r ddisgen yng nghategori F57.
Bydd Olivia Breen (100m T38, Naid hir) a Laura Sugar (100m, 200m T44, Naid hir) yn cystadlu ar y trac ac yn y maes.
Bydd golwg360 yn dilyn hynt a helynt athletwyr Cymru yn ystod yr wythnos yn fyw, ac yn dod â’r diweddaraf i chi o rai o’r prif gystadlaethau ac athletwyr mwyaf gwledydd Ewrop fydd yn Abertawe.