Roedd gwybodaeth am chwaraewyr Caerdydd wedi'i rhyddhau i Crystal Palace y llynedd
Mae Crystal Palace wedi cael dirwy o hyd at £25,000 ar ôl derbyn gwybodaeth ynglŷn â thîm Caerdydd cyn gêm Uwch Gynghrair rhwng y ddau glwb y tymor diwetha’.

Cafodd gwybodaeth am dîm Caerdydd ei rhannu gyda Palace cyn y gêm ar 5 Ebrill, gyda’r tîm o Lundain yn mynd ymlaen i ennill y gêm 3-0.

“Mae bwrdd yr Uwch Gynghrair wedi ystyried cwyn gan Gaerdydd ynglŷn ag ymddygiad swyddog o Crystal Palace,” meddai datganiad gan y gynghrair.

“Mae’r bwrdd wedi canfod fod Crystal Palace wedi torri Rheol B.16 ac mae’r bwrdd wedi penderfynu dirwyo’r clwb.”

Mae’r rheol dan sylw yn gofyn i glybiau’r Uwch Gynghrair ymddwyn mewn “ffydd dda” tuag at ei gilydd.

Doedd gan Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ddim i’w ddweud ar y mater.

Roedd y ddau dîm yn brwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair ar y pryd, gyda Chaerdydd yn disgyn i’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor ond Palace yn llwyddo i aros fyny.

Yr awgrym ar y pryd oedd mai cyfarwyddwr recriwtio Crystal Palace Iain Moody – oedd wedi gadael Caerdydd dan gwmwl ychydig fisoedd ynghynt – oedd wedi ceisio darganfod pwy fyddai yn nhîm Caerdydd ar y diwrnod drwy ei gysylltiadau yn y clwb.

Fodd bynnag, nid oedd datganiad yr Uwch Gynghrair yn cadarnhau pwy union oedd wedi bod yn gyfrifol am rannu’r wybodaeth.