Fe fydd seren Britain’s Got Talent, Shaheen Jafargholi a Chôr Meibion Treforys ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan yn seremoni agoriadol Pencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC yn y ddinas heno.

Mae’r seremoni’n cael ei chynnal ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Prifysgol Abertawe am 7.30yh.

Bydd y noson, sy’n cael ei chyflwyno gan y cyflwynydd radio lleol Kevin Johns a’r cyn-gyflwynydd teledu Sam Lloyd, hefyd yn serennu’r canwr X Factor John Adams, perfformwyr o Ysgol Lwyfan Mark Jermin a Chadetiaid Awyr Abertawe.

Heno fydd y cyfle cyntaf i glywed perfformiad byw o’r gân swyddogol ‘Good as Gold’.

Yn ystod y seremoni, fe fydd cadeirydd y pwyllgor trefnu lleol Paul Thorburn a Llywydd yr IPC, Syr Philip Craven yn annerch y dorf cyn i’r Pencampwriaethau gael eu hagor yn swyddogol gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths.

Bydd baner swyddogol y Pencampwriaethau’n cael ei datgelu a’i chodi ar y noson, wedi iddi gael ei chario i’r trac gan nifer o gludwyr lleol.

Wrth i’r Pencampwriaethau gael eu hagor, fe fydd y Gymraes Josie Pearson, ei hyfforddwr Anthony Hughes ac un o ddyfarnwyr y Pencampwriaethau, Matt Witt yn tyngu’r llw swyddogol.

Mewn datganiad, dywedodd Paul Thorburn: “Fe wnaethon ni addo rhyw flas bach o ddoniau a diwylliant Abertawe a Chymru.

“Dylai’r seremoni nodi dechrau cystadleuaeth o’r radd flaenaf ac mae’n ffordd briodol o groesawu’r timau ac ymwelwyr.”