Mae prif hyfforddwr newydd y Scarlets, Wayne Pivac, wedi mynnu bod gan bawb yn y garfan gyfle i brofi’i hun cyn dechrau tymor newydd y Pro12.
Fe wyliodd Pivac ei dîm yn brwydro i gêm gyfartal 26-26 yn erbyn Caerfaddon dros y penwythnos, yn y gêm Rag Doll draddodiadol rhwng y ddau dîm.
Ar 30 Awst fe fydd y Scarlets yn herio Caerloyw mewn gêm baratoadol arall cyn iddyn nhw ddechrau’r tymor yn erbyn Ulster wythnos yn ddiweddarach.
Ac wrth drafod cryfder y garfan ar ôl y gêm yn erbyn Caerfaddon, cyfaddefodd yr hyfforddwr newydd nad yw dal yn gwybod union gryfder ei garfan ar hyn o bryd.
“Dw i ddim yn gwybod llawer am y chwaraewyr,” meddai Wayne Pivac. “Dw i wedi gwneud rhywfaint o ymchwil ers dod yma ac adref [yn Seland Newydd] cyn i mi adael, ond mae gan bawb gyfle i geisio hawlio lle cyn gêm Ulster.”
Scott yn ôl
Serch hynny, roedd ar y cyfan yn falch gyda beth welodd ar ddydd Sadwrn, pan ddaeth y Scarlets nôl i gipio gêm gyfartal er gwaethaf colli 12-0 ac yna 26-14 yn ystod y gêm.
Fe sgoriodd y Scarlets bedair cais, gyda chapten yr hanner cyntaf Rob McCusker yn tirio gyntaf cyn i gapten yr ail hanner Scott Williams, yn ogystal â James Davies ac Aled Davies, sgorio hefyd.
“Roeddwn i’n meddwl bod mwy o bethau da na drwg yn y perfformiad yna,” mynnodd Pivac.
“Rydym ni’n dod i ffwrdd gyda digon i weithio arno sydd yn arwydd da ar ôl un gêm; fe fuaswn i’n casáu petawn ni wedi rhoi’n perfformiad gorau heddiw.
“Ar y cyfan roedd yn ddechrau positif pan rydych chi’n gwybod fod chwaraewyr rhyngwladol eto i ddod i mewn i’r grŵp.
“Y peth braf oedd bod llawer o’r bechgyn yna yma ac fe welon nhw’r bechgyn ifanc yn rhoi eu llaw lan sydd yn dda achos rydyn ni eisiau cystadleuaeth yn y garfan ar gyfer pob safle.”
Roedd canolwr Cymru Scott Williams yn chwarae ei gêm gyntaf yn ôl i’r Scarlets ers dychwelyd o anaf i’w ysgwydd, ac fe gyfaddefodd ei fod yn teimlo’n nerfus.
“Roedd e’n dda cael y gêm gyntaf mas o’r ffordd,” cyfaddefodd Williams. “Dw i ddim fel arfer yn mynd mor nerfus cyn gêm ond mae wedi bod yn sbel ers i mi chwarae, ond unwaith ddechreuodd pethau roeddwn i’n syth i mewn iddi.”