Collodd Morgannwg y bore ma yn Sain Helen o 63 rhediad yn erbyn Swydd Essex, wrth iddyn nhw gwrso 348 i ennill.
Cafodd y Cymry eu bowlio allan am 284 wrth golli dwy wiced ola’r batiad yn ystod y bore.
Agorodd Jesse Ryder a Monty Panesar – oedd eisoes wedi cipio deg wiced yn yr ornest – y bowlio ac fe ddechreuodd Morgannwg yn hyderus wrth i Graham Wagg a Dean Cosker ddod i’r llain.
Roedd hi’n 241-9 wrth i Wagg gael ei ddal gan y maeswr agos Nick Browne oddi ar Panesar, a’r Awstraliad Michael Hogan ddaeth i’r llain.
Tarodd Hogan nifer o ergydion i’r ffin wrth i Forgannwg frwydro ymlaen yn erbyn Ryder, Panesar a Tom Westley.
Ond daeth yr ornest i ben wrth i Hogan daro’n syth at y bowliwr Westley, ac roedd Morgannwg 63 rhediad yn brin o’r nod.