James Chester
Mae Cip ar y Cymry nôl ar gyfer y tymor newydd, wrth i golwg360 gadw llygad ar hynt a helynt y Cymry gyda’u clybiau.
Mae fel pe na bai Cip ar y Cymry wedi bod i ffwrdd o gwbl dros yr haf, wrth i dymor newydd yr Uwch Gynghrair ddechrau mewn modd digon tebyg i’r un diwethaf – gyda gôl fuddugol gan Aaron Ramsey.
Ar ôl rhwydo’r gôl a enillodd Gwpan FA Lloegr i Arsenal ym mis Mai, roedd hi’n amlwg fod Ramsey wedi gwneud y mwyaf o’i saib dros yr haf tra bod cymaint o’i gyd-chwaraewyr yng Nghwpan y Byd.
Roedd yn y lle iawn ar yr adeg iawn ym munud olaf y gêm pan ddisgynnodd y bêl yn dwt wrth ei draed yn y cwrt cosbi, ac yntau’n rhwydo i sicrhau buddugoliaeth o 2-1 dros Joe Ledley a Crystal Palace.
Sgoriwr gôl agoriadol Hull yn ffeinal y Cwpan FA nôl ym mis Mai oedd James Chester, ac ni wastraffodd ef gyfle i efelychu’r gamp honno ar y penwythnos cyntaf chwaith wrth benio unig gôl y gêm mewn buddugoliaeth dros QPR.
Bu bron i’w brynhawn droi’n sur pan ildiodd gic o’r smotyn yn nes ymlaen – er i’r bêl daro’i fol – ond fe arbedwyd ymdrech Charlie Austin.
Fe chwaraeodd Ashley Williams a Neil Taylor ran mewn buddugoliaeth nodweddiadol hefyd wrth i Abertawe synnu pawb ac ennill 2-1 yn erbyn Manchester United.
Cafodd Andy King gêm dda wrth i Gaerlŷr gipio pwynt yn erbyn Everton yn eu gêm gyntaf ers degawd nôl yn yr Uwch Gynghrair, tra bod Joe Allen wedi dod oddi ar y fainc i helpu Lerpwl drechu Southampton, a roddodd wyth munud i Lloyd Isgrove.
Nid oedd hi’n brynhawn cystal i James Collins fodd bynnag, wrth i’r amddiffynnwr weld cerdyn coch i West Ham toc wedi awr o chwarae – ac yna gweld ei dîm yn colli yn y munud olaf – tra bod Paul Dummett hefyd wedi colli gyda Newcastle yn erbyn Man City.
Y Bencampwriaeth
Roedd hi’n brynhawn da i Gymry Reading wrth i un ohonynt sgorio unig gôl y gêm i drechu Ipswich ac Elliot Hewitt yn y Bencampwriaeth – ac na, nid Chris Gunter na Hal Robson-Kanu (oedd yn absennol) gafodd eu henw ar y sgorfwrdd.
Yn hytrach fe aeth y gôl fuddugol i Jake Taylor, asgellwr 22 oed sydd wedi ennill capiau ieuenctid ar bob lefel i Gymru, ac yntau’n rhwydo’n daclus ar ôl pêl hyfryd ar draws y cae gan, ie, Gunter.
Cafodd camp Gunter ei efelychu gan David Cotterill, a groesodd y bêl am unig gôl y gêm wrth i Birmingham guro Brighton 1-0.
Ennill oedd hanes Rhoys Wiggins gyda Charlton, ac fe ddylai Bolton fod wedi cipio triphwynt yn erbyn Nottingham Forest hefyd petai Craig Davies ddim wedi penio cyfle euraidd hwyr dros y trawst.
Yn anffodus i Joel Lynch (Huddersfield), Emyr Huws (Wigan), a Dave Edwards a Lee Evans (Wolves) colli oedd eu hanes nhw, tra bod George Williams hefyd wedi colli gyda Fulham yn erbyn tîm Jermaine Easter, Millwall.
Yng Nghynghrair Un roedd y Cymry a chwaraeodd yn cynnwys Lewin Nyatanga, Gwion Edwards, Joe Walsh, Jake Cassidy, James Wilson, Tom Bradshaw a Josh Pritchard.
Seren yr wythnos – James Chester. Penio’r gôl fuddugol ac edrych yn gryf yn amddiffynnol. Ar benwythnos ble cafodd James Collins gerdyn coch, rhywbeth i Coleman gnoi cil drosto.
Siom yr wythnos – James Collins. Oedd hi’n fawr o syndod? Collins yn colli’i ben unwaith eto, gyda throsedd hurt y tu allan i’r cwrt cosbi pan oedd eisoes ar gerdyn melyn.