Wrth i ISIS dynhau eu gafael ar y Dwyrain Canol, mae awyrennau Syria wedi bomio safleoedd sydd ym meddiant y wladwriaeth islamaidd yn nhalaith ogleddol Raqqa.

Maes awyr milwrol Tabqa yw’r maes awyr olaf yn y dalaith sydd yn parhau yn nwylo lluoedd diogelwch Syria.

Cafwyd adroddiadau o wrthdaro gwaedlyd rhwng lluoedd Syria ac ymladdwyr ISIS wrth ymyl pentrefi Ajil a Khazna.

Ers i ISIS atgyferthnerthu eu grym yn y cilgant ffrwythlon yn ddiweddar, mae Syria a’r Unol Daleithau er yn elynion pennaf wedi bod yn ymladd yr un gelyn, gyda’r Unol Daleithau wedi estyn cefnogaeth ddoe i’r Cwrdiaid yn erbyn ISIS yn Irac.