Mae heddlu ym Mhontypridd yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn lleol 18 oed gael ei anafu mewn digwyddiad o dan bont dros afon Taf.

Disgynnodd y dyn o ddarnau dur sy’n rhedeg o dan y bont, a glanio ar gerrig oddi tano tua 3.30yp ddoe (dydd Sul). Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anaf difrifol i’w asgwrn cefn.

Mae criw o bobol ifanc oedd ar yr adeg disgynnodd y dyn 18 oed yn cynorthwyo’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Gofynnir i unrhyw un arall sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu ar 101.