Un o feiciau Antur Stiniog
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i bum beic gwerth arian mawr gael eu dwyn o Antur Stiniog, canolfan awyr agored yn Llechwedd, Blaenau Ffestiniog.
Credir fod y beiciau mynydd Ratchet, Lycan a Specialized wedi cael eu dwyn rhywbryd rhwng 6:00yh 14 Awst a 8:30yb 15 Awst.
Nid yw’r heddlu yn credu fod y lladron yn dod o’r ardal leol.
Menter Gymdeithasol yw Antur Stiniog, ac fe gafodd y ganolfan awyr agored ei hagor yn swyddogol ym mis Mawrth eleni.
Dywedodd y swyddog Mathew Jenkins:
“Rydym yn amau nad yw’r lladron yn lleol i ardal Blaenau Ffestiniog, ond rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un sy’n gwybod am leoliad y beics.
Gofynnir i bwy bynnag sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â swyddfa heddlu Blaenau Ffestiniog ar 101, neu alw Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.