Mae cannoedd o bobol wedi cael eu gorfodi o’u cartrefi yn dilyn storm yn Nepal ac India yn ystod y dyddiau diwethaf, ac mae beth bynnag 180 o bobol wedi’u lladd.
Mae awdurdodau yn Nepal a India wedi gyrru timau brys i ardaloedd sydd wedi’u taron wael gan lifogydd y monswn.
Gyrrwyd pedair hofrennydd gyda gweithwyr meddygol i’r pentrefi sydd wedi’u hynysu. Mae’r rhan fwyaf o’r ffyrdd yn yr ardal wedi’u gorchuddio gan ddwr, neu wedi’u difrodi, sy’n gwneud hi’n amhosib i gerbydau gyrraedd y mannau hyn.
Mae miloedd o bobl yn ddigartef yn y rhanbarthau sydd dan ddwr, gyda swyddogion lleol yn dosbarthu bwyd angenrheidiol fel reis a lentils, offer coginio i’r bobl sydd heb do uwch eu pennau.
Mae o leiaf 100 o bobl wedi marw yn Nepal ers dydd Iau, gyda o leiaf 84 o bobl yn India wedi marw o ganlyniad i’r stormydd yno.
Tymor monswn
Daw’r tymor Monswn â llifogydd difrifol i Nepal ac India yn flynyddol rhwng mis Mehefin a mis Medi.
Achosodd y glaw dirlithriad ddechrau’r mis lle y gorchuddiwyd pentref cyfan, ger y brifddinas Kathmandu, gan ladd 156 o bobl.
Y llynedd, cafodd 6,000 o bobl eu lladd gan dirlithriadau a llifogydd yn nhalaith Uttarakhand yn ystod tymor y Monswn. Mae dad-goedwigo trwm tros y degawdau diwethaf wedi gwneud yr ardaloedd yn fwy agored i dirlithriadau.