Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dechrau gwaith i drwsio hen glawdd llifogydd Crindau yng Nghasnewydd, ar ôl iddo gael ei ddifrodi gan lanw mawr a thywydd stormus yr wythnos diwethaf.
Mae’r gwaith yn cael blaenoriaeth gan CNC, y corff sy’n gwarchod amgylched ac adnoddau naturiol Cymru, gan fod rhagolygan am fwy o dywydd garw’r mis nesaf yn ôl llefarydd.
Disgwylir i’r gwaith gymryd wythnos i’w gwblhau ac mae’n cynnwys cael gwared â rhannau o’r clawdd allanol sydd wedi’u difrodi a chryfhau ei graidd trwy ei lenwi â chlai.
Amddiffyn
Meddai Craig Burdon, Arweinydd y Tîm Cyflawni Gweithrediadau yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Yn sicr, mae’r llanw uchel a’r tywydd stormus a gawson ni’r wythnos diwethaf wedi profi ein clawdd llifogydd newydd i’r eithaf, a phleser yw dweud ei fod wedi gwrthsefyll yr her ac wedi llwyddo i amddiffyn y gymuned leol rhag y môr.
“Yn ystod y llanw mawr roedd ein staff ar y safle’n cadw golwg ar y llanw ac ar berfformiad ein hamddiffynfeydd.
“Ar ôl gweld crac mewn rhan o’r hen glawdd, rydym bellach yn cymryd camau i’w drwsio’n ddi-oed fel y gall barhau i amddiffyn trigolion Crindau rhag llifogydd yn y dyfodol.”