A hithau ar drothwy Gwyl y Banc Awst, fe fydd archfarchnadoedd yn gostwng prisiau petrol a diesel fory.

Fe fydd Asda a Sainsbury’s yn gostwng pris litr o betrol o 2c, a bydd 1c yn dod oddi ar bris litr o ddiesel.

Yn achos Asda, fe fydd hyn yn dod a phris litr o betrol i lawr i 124.7c, a diesel i 128.7c y litr – y prisiau isa’ er Ionawr 2011.

Mae cymdeithas foduro’r AA yn dweud y bydd hyn yn dod a’r pris cyfartalog ar gyfer litr o betrol i lawr i 129.71c, a’r pris cyfartalog ar gyfer diesel yn 133.74c – yr isa’ oddi ar fis Chwefror 2011.

Y gred yw y bydd penderfyniad y ddwy archfarchnad hon yn annog siopau mawrion eraill i wneud yr un peth.