Mae ymladdwyr Cwrdaidd ar y cyd gyda lluoedd diogelwch Iracaidd wedi adennill rheolaeth o argae Mosul oddi ar lluoedd ISIS yn Irac.

Gyda chymorth cyrchoedd awyr gan yr Unol Daleithau ddydd Sul, mae’r argae bellach yn ôl yn nwylo llywodraeth Irac.

Mae hyn yn cael ei weld fel buddugoliaeth arwyddocaol yn y frwydr yn erbyn y wladwriaeth Islamaidd sy’n prysur ymledu trwy Irac.

Datgelodd yr Unol Daleithau hefyd fod cyrchoedd awyr wedi’u cynnal yn cynnwys drôns, fel rhan o’i ymgyrch ddyngarol yn yr ardal.

Mae argae Mosul yn hynod strategol oherwydd fe ellir rheoli cyflenwad dwr i dde Irac. Byddai rheolaeth parhaol o’r Argae wedi golygu y byddai ISIS mewn sefyllfa gref iawn yn y wlad.

Cafodd yr argae ei hadeiladu ym 1984 ar yr afon Tigris gan arlywydd Irac Saddam Hussein i gynhyrchu trydan a chyflenwi dwr i weddill Irac.

Defnyddiodd Saddam Hussein yr argae i atal dwr i’r grwpiau Shi-ite yn Ne Irac yn ystod ei gyfnod ef yn unben y wlad.