Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion yn dilyn damwain ffordd ger Wrecsam, lle cafodd gyrrwr beic modur 28 oed ei anafu yn ddifrifol.

Digwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A535 ger Bangor-is-y-Coed tua 10:15 fore ddoe. Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle ble roedd beic modur BMW RR1000ss lliw du wedi gwrthdaro.

“Mae ymchwiliad wedi cychwyn i achos y ddamwain ac mi faswn yn hoffi clywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar yr adeg ac a welodd y ddamwain, neu a welodd y beic modur o flaen llaw,” meddai’r rhingyll Jane Thomas.

Gofynnir i dystion gysylltu ar heddlu ar 101, neu trwy alw Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.