Mae cylchgrawn yn Yr Almaen wedi cyhoeddi honiadau fod y wlad wedi bod yn clustfeinio ar alwadau ffôn dan o Ysgrifenyddion Gwladol yr Unol Daleithiau – John Kerry a Hillary Clinton.

Mae cylchgrawn wythnosol, Der Spiegel, yn dweud fod yr asiantaeth BND wedi recordio galwad a wnaethpwyd gan Kerry yn 2013 fel rhan o’r ymgyrch i gadw llygad ar bwy oedd yn cyfathrebu efo pwy yn y Dwyrain Canol. Fe recordiodd yr asiantaeth hefyd, yn ôl Der Spiegel, alwad rhwng Clinton a chyn-Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan, yn 2012.

Dyw’r cylchgrawn ddim yn dweud o lle daeth y wybodaeth, ond mae’n dweud mai ar ddamwain y digwyddodd y recordio yn hytrach na bod yn dargedau bwriadol gan BND.

Os yw’r honiadau’n wir, mi fydd yn destun embaras i lywodraeth yr Almaen, oherwydd iddi dreulio misoedd yn cwyno i Washington am weithgaredd sbeis o America yn yr Almaen.