Mae gwrthryfelwyr wedi saethu i’r ddaear awyren ryfel o’r Wcrain, a hynny wrth i rebeliaid sy’n gefnogol i Rwsia a lluoedd llywodraeth yr Wcrain frwydro yn nwyrain y wlad.
Mae llefarydd ar ran byddin yr Wcrain wedi cadarnhau fod yr awyren wedi ei saethu i lawr dros ardal Luhansk, wedi iddi ymosod ar rebeliaid. Fe neidiodd y peilot allan o’r awyren, ac mae wedi cael ei gludo i le diogel.
Does dim rhagor o fanylion ar gael ar hyn o bryd.