Mae morâl staff yr heddlu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn is nag erioed – a hynny oherwydd y straen y mae toriadau ariannol yn ei roi arnyn nhw, yn ôl arolwg.
Mae bron i 70% o’r 3,335 o weithwyr – o atebwyr galwadau ffôn 999 i swyddogion i ddadansoddwyr troseddau, yn dweud mai cynnydd yn eu llwyth gwaith yw’r prif reswm pam eu bod yn teimlo dan straen, meddai undeb Unison.
Mae’r undeb nawr yn galw ar lywodraeth San Steffan ac ar arweinwyr yr heddlu i edrych eto ar toriadau sydd wedi bod yn nifer y gweithwyr.
Mae’r arolwg yn dangos fod mwy na thri chwarter y staff (76%) wedi teimlo pwysau mawr dros y flwyddyn ddiwetha’. Mae 60% yn rhoi bai ar ansefydlogrwydd ac ansicrwydd eu swyddi, gyda thri chwarter y rhai a holwyd yn dweud eu bod wedi gweld toriadau a phobol yn colli eu gwaith ers 2010.
Mae bron i ddwy ran o dair o’r gweithlu (63%) yn dweud fod colledion swyddi wedi bwrw eu morâl, tra bod 55% yn diodde’ straen, 48% yn dweud nad oes ganddyn nhw amynedd yn eu gwaith, ac mae 47% yn methu cysgu’r nos.
Roedd hanner y gweithlu yn poeni am ddiffyg cefnogaeth gan eu rheolwyr, tra bod 525 yn poeni am eu cyflogau a chostau byw. Roedd 35% o’r farn fod y cydbwysedd rhwng eu bywyd cartre’ a’u bywyd gwaith, yn “wael”.
Fe gafodd setliad ariannol y Llywodraeth ar gyfer 43 heddlu Cymru a Lloegr ei gyhoeddi ym mis Mai eleni – at £8.5bn. Mae hyn yn cymharu â’r £8.7bn yn 2013/14 a’r £9.7bn yn 2010/11.