Mae’r hanesydd, Syr Tom Devine, wedi dweud y bydd o’n pleidleisio “Ie” yn y refferendwm ar Annibyniaeth i’r Alban ar Fedi 18. Mae hynny’n dipyn o newid o’r ffordd yr oedd am bleidleisio ar ddechrau’r ymgyrch.
Ac yntau’n awdur dwsinau o gyhoeddiadau ar hanes yr Alban, mae’n ymddeol o’i swydd yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Diaspora ym Mhrifysgol Caeredin yr haf hwn. Ond pan ddechreuodd yr ymgyrch ddiweddara’ ar gyfer refferendwm y mis nesa’, roedd am weld yr Alban yn mynd am yr opsiwn sydd wedi’i fedyddio’n “devo-max”, nid annibyniaeth lwyr.
Mae wedi bod yn gyfrannwr cyson i’r drafodaeth ar fater y refferendwm, ac mae wedi rhybuddio gwleidyddion unoliaethol fod yn rhaid iddyn nhw gadw at eu haddewidion am fwy o ddatganoli petai’r Alban yn digwydd pleidleisio ‘Na’.
“Mae hon wedi bod yn siwrnai hir i mi, a dim ond yn ystod y pythefnos ddiwetha’ yma ydw i wedi dod i’r canlyniad mai ‘Ie’ yw’r ffordd ymlaen,” meddai Tom Devine.
“Mae senedd yr Alban wedi dangos ei bod yn gallu llywodraethu, ac mae’n cynrychioli pobol yr Alban.
“Dw i’n credu mai’r Albanwyr sydd wedi llwyddo orau wrth ddal gafael yn y syniad o beth yw tegwch a dyngarwch ‘Prydeinig’ yn nhermau sut mae’r wladwriaeth yn ymateb ac yn ymyrryd,” meddai wedyn. “Yn ddigon eironig, Lloegr, oddi ar yr 1980au, sydd wedi bod ar siwrnai wahanol.”