Pab Ffransis
Mae’r Pab Ffransis wedi ymestyn allan at China a Gogledd Corea, gan ddweud ei fod “o ddifri” ynglyn â gwella’r berthynas rhyngddynt, a chan bwysleisio nad dod i “goncro” eu gwledydd y mae’r Eglwys Babyddol.
Fe gyflwynodd y Pab ei flaenoriaethau gogyfer â’r Eglwys Babyddol yn Asia yn ystod cyfarfod o esgobion yr ardal honno o’r byd yn Seoul, De Corea, gan eu hannog, bob un, i wrando ar bobol o wahanol ddiwylliannau. Mae hynny’n bosib, gan ddal hefyd wrth eu hunaniaeth Gatholig eu hunain, meddai.
“Mewn ysbryd o fod yn agored i eraill, dw i o ddifri’ yn gobeithio y bydd y gwledydd hynny ar eich cyfandir nad ydi ein heglwys eto’n mwynhau perthynas lawn, yn gallu parhau i drafod er ein mwyn ni i gyd,” meddai.
“Dw i ddim yn sôn yma am ddeialog wleidyddol, ond am ddeialog frawdol,” meddai’r Pab Ffransis wedyn. “Dydyn ni, Gristnogion, ddim yn dod fel concwerwyr, a dydyn nhwthau ddim yn ceisio cymryd oddi arnom ni ein hunaniaeth.
“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n cydgerdded y daith.”