Mae Eglwys Loegr wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o fod â “dim syniad clir na threfnus” o sut i fynd i’r afael â thwf mewn eithafiaeth Islamaidd.
Mewn datganiad o eiriau cryfion yn erbyn y modd y mae David Cameron yn handlo’r creisis cynyddol yn Irac, mae Esgob Leeds yn dweud fod “nifer” o clerigwyr profiadol yn poeni’n ddirfawr am y sefyllfa.
Mae’r Gwir Barchedicaf Nicholas Baines, mewn llythyr at y Prif Weinidog, yn cwestiynu pam nad oes strategaeth dymor hir ar gyfer mynd i’r afael â’r math o derfysgaeth yn Irac. Mae hefyd yn beirniadu’r “tawelwch cynyddol” dros ffawd y Cristnogion sy’n cael eu herlid yno.
Yn arbennig, mae Nicholas Baines yn codi cwestiynau ynglyn â’r modd y mae gweinidogion y Llywodraeth yn llwyddo i anwybyddu galwadau – trwy lythyr a thrwy gwestiynau yn Nhy’r Cyffredin – i nodi beth yn union yw’r trefniadau sydd mewn lle i gynnig lloches i bobol yn y Deyrnas Unedig.
Mae hefyd yn dweud ei fod yn poeni am gomitment David Cameron a’i lywodraeth i “ryddid crefyddol”.