Mae heddlu yn America wedi tanio nifer o ganiau mwg at dorf yn St Louis – torf sy’n protestio wedi marwolaeth bachgen yn ei arddegau croenddu a gafodd ei saethu’n farw gan blismon croenwyn yr wythnos hon.

Mae cannoedd o brotestwyr eraill wedi gadael yn dawel cyn y dedlein 5 o’r gloch y bore yn Ferguson, Missouri, heddiw.

Ond mae protestwyr eraill – yn siantio “No justice! No curfew!” – wedi gwrthod gadael yr ardal. Ac, wrth i gerbydau arfog gyrraedd, roedd plismyn yn siarad â’r dorf trwy uchelseinydd, yn rhybuddio y gallen nhw gael eu harestio.

Wrth i blismyn wisgo eu masgiau nwy, fe ddechreuodd y dorf siantio wedyn, “Mae hawl ganddon ni i brotestio’n heddychlon”.

Yna, fe ddechreuodd yr heddlu danio caniau mwg i’w canol.