Mae’r awdurdodau yn Liberia wedi agor canolfan newydd i drin cleifion sy’n diodde’ o Ebola.
Dim ond lle i 25 o bobol oedd yn y ganolfan gynta’ yn Monrovia, ond erbyn ddoe, roedd 80 o gleifion yno. Mae 120 o welyau yn y ganolfan newydd, ond mae yna ofn y bydd yn rhaid treblu’r nifer hwnnw wrth i’r afiechyd ymledu.
Y bwriad penna’ yw ceisio ynysu’r dioddefwyr, fel ei bod hi’n anos i’r afiechyd gael ei drosglwyddo o un person i’r llall trwy hylifau’r corff fel gwaed, chwys neu biso.
Mae beth bynnag 1,145 o bobol wedi marw yn Liberia, Sierra Leone, Guinea a Nigeria hyd yma, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Mae ystadegau a gyhoeddwyd ddoe yn dangos fod 413 o bobol wedi marw yn Liberia.