Mae papur newydd The Jewish Chronicle wedi ymddiheuro i’w ddarllenwyr a gafodd eu gwylltio gan benderfyniad golygyddol i redeg hysbyseb yn apelio am arian i gronfa i helpu plant y rheiny sydd wedi’u heffeithio gan ymosodiadau Israel yn Gaza.
Fe gododd ymgyrch DEC dros £9m yn ystod ei hwythnos gynta’, gyda llawer o’r cyfraniadau’n dod wedi i bapurau newydd gario’r hysbyseb.
Fe fydd yr arian yn cael ei rannu rhwng 13 o elusennau er mwyn rhoi hwb i waith dyngarol yn Gaza.
Mae mwy na 1,900 o Balesteiniaid, y rhan fwya’ ohonyn nhw’n bobol gyffredin, wedi cael eu lladd yn y rhyfel a dorrodd allan rhwng Hamas ac Israel fis diwetha’. Mae 67 o Israeliaid wedi’u lladd, 64 ohonyn nhw’n filwyr.
Mae cadoediad pum niwrnod yn parhau, ac mae gobaith y gallai Israel a Hamas ddal ati i drafod yn yr Aifft y posibilrwydd o roi’r gorau i ymladd yn gyfan gwbwl.
Ond, mae ymddangosiad yr hysbyseb yn y Chronicle wedi rhoi olew ar y tân, ym marn rhai darllenwyr.