Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cynnig cymryd gofal o’r mannau croesi i mewn ac allan o Gaza, yn ogystal a gweithio i rwystro cario arfau anghyfreithlon i mewn ac allan o’r ardal.

Dyw’r status quo “ddim yn opsiwn” meddai.

Wrth i weinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd gyfarfod ym Mrwsel i drafod rhyfeloedd byd, roedd cynrychiolwyr Hamas yn cyfarfod gydag arweinwyr y gwrthryfelwyr Islamaidd yn Qatar, yn y gobaith o allu cynnal cadoediad gydag Israel.

Mae’r blocad yn erbyn Gaza yn parhau’n faen tramgwydd yn y trafodaethau. Mae’n amharu’n sylweddol ar allu’r Palesteiniaid i fynd a dod, ac mae’n rhwystro mynd a nwyddau i mewn ac allau i Gaza. Mae hi bron yn amhosib i gario nac anfon dim byd allan oddi yno.