Mae’r Unol Daleithiau wedi beirniadu’n gyhoeddus lywodraeth Rwsia am y modd y mae’n “ansefydlogi” Yr Wcrain mewn modd “bryfoclyd a pheryglus iawn”.
Ond nid aeth mor bell ag awgrymu NATO fod milwyr Rwsia wedi mentro i’r Wcrain dros nos ddydd Gwener.
Mae’ arlywydd Yr Wcrain yn honni fod ei luoedd ef wedi dinistrio’r rhan fwya’ o’r confoi hwnnw.
Fedr yr Unol Daleithiau ddim cadarnhau na chefnogi’r honiadau hynny, meddai llefarydd, ond mae America wrthi’n casglu gwybodaeth ar hyn o bryd.