Ar ddamwain y gwnaeth cemegyn glanhau ei ffordd i baned o de gwraig yn Utah, yr Unol Daleithiau, meddai’r awdurdodau. Roedd wedi ei ychwanegu, yn anfwriadol, at fagaid o siwgwr y mis diwetha’, meddai’r awdurdodau.

Mae Jan Harding, 67, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, wedi iddi losgi ei phibell oesophagus a’i cheg wrth yfed ei phaned yn Dickey’s Barbecue Pit yn South Jordan.

Ond mae llefarydd ar ran Heddlu South Jordan wedi cadarnhau fod gweithiwr yn y caffi wedi cyfadde’ cymysgu’r cemegyn a’r siwgwr mewn bag ar Orffennaf 5.

Roedd yn credu mai siwgwr oedd y cemegyn, ac wedi ei ychwanegu at gyflenwad siwgwr y peiriant te a choffi.

Mae’r heddlu’n aros i weld sut y bydd cyflwr Jan Harding cyn penderfynu dwyn unrhyw gyhuddiadau.