Mae Caerdydd yn trafod ymuno a’r Grŵp Dinasoedd Craidd.
Mae’r Dinasoedd Craidd yn cynnwys yr wyth economi ddinesig fwyaf yn Lloegr y tu allan i Lundain ac yn cynhyrchu 27% o gyfoeth Lloegr.
Maen nhw wedi rhoi llais unedig i awdurdodau lleol i hyrwyddo rôl dinasoedd yn y gwaith o hybu twf economaidd ers bron 20 mlynedd.
Mae’r cyhoeddiad y bydd Glasgow yn ymuno’n ffurfiol â’r grŵp Dinasoedd Craidd yn arwydd pellach bod dinasoedd a dinas-ranbarthau yn cael eu hystyried yn genedlaethol fel ffordd allweddol o hybu twf economaidd, ac arallgyfeirio economi Prydain i ffwrdd o Lundain a’r De Ddwyrain.
Dilyn Glasgow…
Dywedodd y Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd:
“Mae’r cyhoeddiad bod Glasgow yn ymuno â’r Grŵp Dinasoedd Craidd yn gydnabyddiaeth bwysig o’r rôl sydd gan ddinasoedd yn y gwaith o arallgyfeirio economi Prydain.
“Ni allwn ni yng Nghymru anwybyddu’r agenda hon,” meddai wedyn. “Dyna pam mae Caerdydd yn trafod gyda’r Dinasoedd Craidd, ac rwy’n falch o’r cynnydd a wnaed gennym hyd yma.
“Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sydd yn tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae economi’r ddinas yn dechrau ffynni eto ar ôl y dirwasgiad. Mewn gair, mae’n bwysig iawn i economi Cymru.
“Ond os ydym am ddal i weld ffyniant bydd angen i Gaerdydd – a Dinas-Ranbarth Caerdydd – gael buddsoddiad pellach, disgresiwn o ran y ffordd y mae’r buddsoddiad yn cael ei wario, a hyblygrwydd o ran codi ffynonellau refeniw sydd wrth galon y trafodaeth rhwng y Trysorlys a dinasoedd eraill ym Mhrydain.”