Cofeb Langemark (Llun: Llywodraeth Cymru)
Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru yn teithio i bentref Langemark yng Ngwlad Belg i ddadorchuddio cofeb newydd i’r holl Gymry oedd yn rhan o’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r seremoni cyflwyno a dadorchuddio yn benllanw nifer o flynyddoedd o ymgyrchu a chodi arian gan y Grŵp Ymgyrchu dros Gofeb y Cymry yn Fflandrys i gael cofeb barhaol i gofio am wasanaeth dynion a menywod o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r gofeb yn cynnwys cromlech a wnaed o bedair Carreg Las Pennant o chwarel Craig yr Hesg ger Pontypridd, ac ar ei phen ceir draig goch o efydd, a ddyluniwyd gan yr artist o Gymru, Lee Odishow.
Pridd o’r Ysgwrn
Bydd pridd a gasglwyd yn ddiweddar o gopa’r Wyddfa a Phen y Fan ac o gartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, yn cael ei osod ar waelod y gofeb fel rhan o’r seremoni gyflwyno. Bydd y Prif Weinidog hefyd yn gosod torch a neges ysgrifenedig ar ran pobl Cymru.
Wrth siarad cyn ei ymweliad â Gwlad Belg, dywedodd y Prif Weinidog:
“Eleni rydym yn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n amserol ein bod yn dadorchuddio’r gofeb nawr, fel arwydd o barch, ac i gofio’r holl Gymry a wynebodd erchylltra yma nad oes modd i ni ei ddirnad.
“Oherwydd yr aberth a wnaethant a’r rhyddid y brwydrwyd amdano, rhaid i ninnau barhau i dalu teyrnged iddyn nhw heddiw.
“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi bod ynghlwm wrth yr ymgyrch bwysig hon. Mae’r gofeb drawiadol hon yn fodd i’n hatgoffa bod angen parhau i ymdrechu i sicrhau heddwch yn ein hoes ni.”