Mae dynes wedi’i harestio yn dilyn marwolaeth babi ychydig wythnosau oed.
Mae’r ddynes, 55, yn cael ei holi gan dditectifs ar amheuaeth o achosi marwolaeth plentyn trwy orwedd arno.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i Lychgate Court yn Oldham wedi i barafeddygon ddod o hyd i’r babi “prin dair wythnos oed”.
Fe gafodd y babi ei gludo i Ysbyty Brenhinol Oldham, ond bu farw’n fuan wedi hynny.