Nawaz Sharif, Prif Weinidog Pacistan
Mae miloedd o bobol wedi dod ynghyd yn ninas Lahore ym Mhacistan, i gynnal rali i wrthwynebu llywodraeth y wlad.

Arweinydd y rali ydi Imran Khan, y cyn-gricedwr sydd bellach wedi ymroi i wleidyddiaeth, ac sy’n arwein ei blaid ei hun, Tehrik-e-Insaf, y drydedd fwya’ yn y senedd.

Mae tua 5,000 o brotestwyr yn teithio mewn confoi i geir o ddinas Lahore i’r brifddinas, Islamabad, gyda’r bwriad o barhau efo’r brotest yno.

Mae miloedd o blismyn ar ddyletswydd ar hyd a lled Islamabad, ac mae nifer o ffyrdd i mewn i’r brifddinas wedi’u rhwystro.

Dyma’r rali fwya’ eto yn erbyn llywodraeth y Prif Weinidog, Nawaz Sharif, flwyddyn wedi iddo ddod i’r swydd.