Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi i gerddwraig gael ei lladd mewn gwrthdrawiad gyda lori wen o wneuthuriad MAN.
Fe ddigwyddodd y ddamwain yn Llangyfelach neithiwr, a hynny ar ffordd ymadael o draffordd yr M4 i gyfeiriad y dwyrain.
Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un a welodd y lori, y gerddwraig neu’r digwyddiad ei hun – cyn neu wedi’r ddamwain – i ddod yn eu blaenau.
Gall tystion ffonio Heddlu De Cymru ar y rhif 101, neu ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.